gwefan.org

 

Côr Merched Canna
côr hwyliog talentog brwdfrydig ysbrydoledig

 

 Côr Canna

‘Caneuon y Wenallt’

Nos Lun 27 Medi 2010 am 7 o’r gloch yn nhafarn y Mochyn Du cafwyd noson arbennig iawn. Bu’r côr yn rhoi’r perfformiad cyflawn cyntaf o Canu’r Wenallt – gwaith newydd gan Gareth Glyn yn seiliedig ar ddetholiad o Dan y Wenallt­ – trosiad T James Jones o Under Milk Wood. Comisiynwyd y gwaith cyffrous 8 munud hwn gan y côr gyda chymorth grant sylweddol gan Gronfa Celfyddydau Perfformio y BBC. Roedd camerâu Wedi 7 yno’n ffilmio’r noson yn fyw.

Roedd Gareth Glyn a Jim Parc Nest yn bresennol ar y noson. Bu Jim yn hel atgofion o’i brofiad yn cyfieithu’r gwaith a chafwyd darlleniad arbennig ganddo o’i gyfieithiad o gerdd enwog Dylan Thomas, Do not go gentle into that good night. Yn anffodus, roedd Shân Cothi wedi colli ei llais ond yn ffodus iawn roedd wedi dod â Rhys Meirion gyda hi a chytunodd ef i ganu ar fyr rybudd. Roedd elw’r noson yn mynd tuag at gronfa Amser Justin Time – elusen Cymru dros gancr y pancreas.

Jim Parc Nest a Gareth Glyn
Jim Parc Nest a Gareth Glyn

Eisteddfod 2010
Ennill y Dwbwl yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010
Y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Côr Merched dros 20 mewn nifer,
a’r wobr gyntaf yn y Côr Alaw Werin rhwng 21 a 40 mewn nifer.

 

Côr Canna

 

Merched Canna Parti
Côr Alaw Werin Buddugol Gŵyl Cerdd Dant 2009

 

Canna
Côr Merched buddugol Eisteddfod Caerdydd 2008 Eisteddfod Llangollen 2009
Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen 2009


Cyngerdd yng Nghapel Bethlehem, Gwaelod y Garth. Mai 2009.

Cyngerdd

Cyngerdd 4 Côr

 

Roedd Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010 yn gofiadwy iawn i’r côr gan i ni ennill y dwbl – cystadleuaeth y Corau Merched ar y pnawn Iau a chystadleuaeth y Corau Gwerin ar y nos Wener. Dyma’r tro cyntaf i’r côr gystadlu ar y Côr Gwerin felly roeddem wrth ein boddau.

 

Sefydlwyd y côr merched talentog a hwyliog yma nôl yn 1994, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, ac ers hynny mae'r côr wedi datblygu i fod yn un o gorau merched mwyaf blaenllaw Cymru, ac yn enw adnabyddus ar lwyfan ein prif Ŵyliau cenedlaethol.


Criw o ffrindiau yn byw yn ardal Caerdydd yw Côr Merched Canna, er eu bod yn wreiddiol yn hannu o bob cwr o Gymru - a hynny sy'n grêt! Mae brwdfrydedd ac egni'r merched yn cael eu hamlygu yn eu canu, ac mae arweiniad Delyth Medi yn eu hysgogi a'u hysbrydoli. Mae'r côr yn cynhyrchu sain ffres ac unigryw, ac yn canu amrywiaeth anhygoel o gerdoriaeth, o gerdd dant i'r blŵs!

 

 

Côr Canna

Côr Canna