Teithiau

CÔR CANNA’N CIPIO’R AUR YN VERONA A CHELTENHAM!

(Dinesydd Mehefin 2007)Taith

Tasech chi wedi gyrru trwy Dreganna am 2 o’r gloch fore Mercher 11 Ebrill mi fyddech chi wedi gweld golygfa ddifyr iawn. Dros ddeg ar hugain o ferched gyda chesys o bob lliw a llun yn disgwyl am fws i’w cludo i faes awyr Gatwick er mwyn hedfan i Ŵyl Gorawl yn Verona, i gystadlu a mwynhau dros wyliau’r Pasg. Cynhaliwyd y seremoni a’r gyngerdd agoriadol yn theatr grand hyfryd y Teatro Filarmonico ynghanol Verona. Roedd 35 côr yn cystadlu eleni ac yn cynrychioli gwledydd mor amrywiol â Croatia, UDA, Iwerddon, yr Eidal, yr Almaen a Chymru wrth gwrs! Cawsom gyngerdd agoriadol gan Gymdeithas Gorawl Euridice o Bologna a’r Rockin Accordions o Leipzig. Roedd hanner y corau yn cystadlu ddydd Iau, Ebrill 12fed, tra roedd gweddill y corau yn perfformio ddydd Gwener. 11.30 fore Gwener oedd ein hamser cystadlu ni. Roedd gennym ni 20 munud i gyflwyno rhaglen - rhaid oedd cyflwyno rhaglen wrthgyferbyniol, gan gynnwys enghreifftiau o gerddoriaeth o wahanol gyfnodau, canu digyfeiliant, ac mi roedd yna gyfle wrth gwrs i ganu mewn sawl iaith – mi roedd yna bedair iaith yn ein dewis raglen ni. Roedd trefn y gystadleuaeth yn reit od – dim cynulleidfa heblaw’r 7 beirniad, o’r Eidal, yr Almaen, Hwngari a’r Weriniaeth Siec.  Y noson honno, fe aethom am Villafranca, i gynnal cyngerdd gyda 4 côr arall – côr o feibion Alpinaidd o’r Eidal, grŵp gwerin o’r Eidal, côr o ferched o Groatia a chôr gospel o’r Unol Daleithiau. Fe gawsom ni dderbyniad da iawn, pawb di gwirioni, a’r arweinydd yn ein galw’n ‘City Girls’ ac yn sôn am John Charles.
Fore Sadwrn roedd yr holl gorau’n ymgynnull yn y theatr yn Verona ar gyfer y seremoni wobrwyo/gloi. Yr holl arweinyddion ar y llwyfan, neb yn gwybod beth oedd y dyfarniad. Pawb yn disgwyl yn eiddgar felly. Dosbarthwyd y cwpanau Efydd, yna’r cwpanau Arian. Dim sôn amdanom ni. Does bosib... Dechreuwyd dosbarthu’r cwpanau Aur. Parti Merched o Groatia, Côr Cymysg o Iwerddon, Côr Plant o Wlad Belg, Côr Prifysgol Halle, a CHÔR MERCHED CANNA!!!.Wel, sôn am weiddi! A chwpan aur drom i’w chario nôl i Gymru, Cafodd pob côr a enillodd yr aur gyfle i ganu yn y theatr grand gyda chynulleidfa o tua 1,500. Profiad bythgofiadwy. Yna, pawb yn gorymdeithio i’r Arena enwog yn Verona lle roedd yr holl gorau yn cyd-ganu “Va Pensiero” gan Verdi dan arweiniad un o’r beirniad, profiad arall i’w drysori. Cafwyd hen ddathlu y noson honno ac roedden ni’n dal i ganu drannoeth pan gafwyd cais i ni aros ar yr awyren yn Gatwick er mwyn canu i’r peilot! Merched blinedig iawn a gyrhaeddodd nôl i Gaerdydd nos Sul. Ond merched hapus a bodlon iawn oedd wedi mwynhau eu hunain yn arw. Rhaid diolch yn fawr i Delyth am ei holl waith, i Kim y gyfeilyddes ac i Mari ac Enid a fu’n gwneud y trefniadau. Chafodd y côr fawr o gyfle i orffwys ar ôl dychwelyd adre gan fod gofyn paratoi ar gyfer Gwyl Gelfyddydau Perfformio Cheltenham ar 12 Mai. Roedden ni’n cystadlu mewn 3 cystadleuaeth – un i gorau o unrhyw gyfuniad o leisiau lle roedd gofyn canu 2 ddarn cyferbyniol, cystadleuaeth a oedd yn gofyn am 2 gân grefyddol a chystadleuaeth y Côr Merched. Llwyddwyd i ennill pob cystadleuaeth a chael 3 chwpan i ddod adref gyda ni. Ond nid dyna’r diwedd. Roedd y côr gorau o blith y corau dynion a’r corau merched yn ennill cwpan aur hardd gwerth £20,000 – y Cheltenham Gold Cup! Ac ie, dyfarnwyd y cwpan i Gôr Canna!

 

 

Taith Corc, Iwerddon 1999

Uchafbwynt 1999 yn ddi-os oedd taith dramor cynta'r cor - i ddinas Cork yn yr Iwerddon rhwng 30 Ebrill a 3 Mai, yn rhan o'r Cork International Choral Festival. Canwyd yn y Merchant's Quay Shopping Centre; Tŷ Opera Cork; Sirius Centre, Cobh; Ile rhoddwyd cyngerdd gyda'r Commodore Male Voice Choir; Church of the Resurrection, Farranree; ac yn Jury's Hotel. Y gan mwyaf poblogaidd oedd Ar Hyd Y Nos gyda Nia Land yn canu'r unawd soprano.

Farranree
Eglwys Farranree

Taith Sbaen 2004

Taith Sbaen 2004

Alicante

Atgofion Sbaen