Hanes

CÔR MERCHED CANNA

Sefydlwyd y côr merched talentog a hwyliog yma nôl yn 1994, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Nedd a’r Cyffiniau, ac ers hynny mae’r côr wedi datblygu i fod yn un o gorau merched mwyaf blaenllaw Cymru, ac yn enw adnabyddus ar lwyfan ein prif Ŵyliau cenedlaethol. Criw o ffrindiau yn byw yn ardal Caerdydd yw Côr Merched Canna, er eu bod yn wreiddiol yn hannu o bob cwr o Gymru – a hynny sy’n grêt! Mae brwdfrydedd ac egni’r merched yn cael eu hamlygu yn eu canu, ac mae arweiniad Delyth Medi yn eu hysgogi a’u hysbrydoli. Mae’r côr yn cynhyrchu sain ffres ac unigryw, ac yn canu amrywiaeth anhygoel o gerdoriaeth, o gerdd dant i’r blŵs!

200912YCymro