Mae Delyth wedi bod yn bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Gyfun Glantaf ers blynyddoedd bellach, ac mae corau ac ensemblau offerynnol yr ysgol wedi mwynhau sawl llwyddiant o dan ei harweiniad. Roedd hi hefyd yn aelod o'r grwp harmoni clos 'Cwlwm' yn yr 1980au a'r 1990au.
Yn 1994 sefydlodd Côr Merched Canna ac yn 2005, cafodd Delyth y fraint o arwain y côr yn Stadiwm y Mileniwm cyn y gem fawr yn erbyn Iwerddon pan enillodd Cymru y Gamp Lawn!
Cyfeilydd
Kim Morgans
Yn wreiddiol o Gwm Garw ger Penybont ar Ogwr, derbyniodd Kim ei haddysg yn Ysgol Gymraeg Maesteg ac Ysgol Gyfun Llanhari cyn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Cerddoriaeth.
Hi oedd y fyfyrwraig gyntaf erioed yno i ennill gradd mewn cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Forgannwg i ddychwelyd i’r coleg fel myfyrwraig ôlraddol, a derbyniodd radd MA gyda chlod uchel, yn y Celfyddydau Perfformio. Mae Kim hefyd yn canu’r delyn ac mae wedi ennill gwobrau sawl gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’n mwynhau cyfeilio, ac mae wedi gweithio gyda nifer o gorau yn y gorffennol, yn eu plith Côr Caerdydd, Parti Bro Ogwr, Merched Y Fro a Chôr Bach Abertawe . Mae wedi teithio’n helaeth yn Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau gyda’r corau hyn. Mae hefyd wedi bod yn un o gyfeilyddion swyddogol Eisteddfod yr Urdd, a bu’n Delynores yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998.