Archifau Categori: Heb Gategori

Gŵyl Gerdd Dant 2013

Llwyddiant yng Ngŵyl Gerdd Dant 2013 Ennillodd Côr Merched Canna y gystadleuaeth Côr Alaw Werin Agored yn yr Ŵyl ym Mhontrhydfendigaid.

Gŵyl Cerdd Dant 2013

 

Roedd Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010 yn gofiadwy iawn i’r côr gan i ni ennill y dwbl – cystadleuaeth y Corau Merched ar y pnawn Iau a chystadleuaeth y Corau Gwerin ar y nos Wener. Dyma’r tro cyntaf i’r côr gystadlu ar y Côr Gwerin felly roeddem wrth ein boddau.

‘Caneuon y Wenallt’

Côr Canna

Nos Lun 27 Medi 2010 am 7 o’r gloch yn nhafarn y Mochyn Du cafwyd noson arbennig iawn. Bu’r côr yn rhoi’r perfformiad cyflawn cyntaf o Canu’r Wenallt – gwaith newydd gan Gareth Glyn yn seiliedig ar ddetholiad o Dan y Wenallt­ – trosiad T James Jones o Under Milk Wood. Comisiynwyd y gwaith cyffrous 8 munud hwn gan y côr gyda chymorth grant sylweddol gan Gronfa Celfyddydau Perfformio y BBC. Roedd camerâu Wedi 7 yno’n ffilmio’r noson yn fyw.

Roedd Gareth Glyn a Jim Parc Nest yn bresennol ar y noson. Bu Jim yn hel atgofion o’i brofiad yn cyfieithu’r gwaith a chafwyd darlleniad arbennig ganddo o’i gyfieithiad o gerdd enwog Dylan Thomas, Do not go gentle into that good night. Yn anffodus, roedd Shân Cothi wedi colli ei llais ond yn ffodus iawn roedd wedi dod â Rhys Meirion gyda hi a chytunodd ef i ganu ar fyr rybudd. Roedd elw’r noson yn mynd tuag at gronfa Amser Justin Time – elusen Cymru dros gancr y pancreas.

Jim Parc Nest a Gareth Glyn

Jim Parc Nest a Gareth Glyn